Prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy

Lleisiau’r Tirwedd

Fe wnaethom enwi’r Prosiect yn “Iachau a Chofio” fel teyrnged i dirwedd y rhan hon o Ynys Môn a’r bobl sydd wedi byw a gweithio ar y tir, a’i siapio.

Nod y Project, gan weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Hanes Prifysgol Bangor, yw archwilio i mewn i hanes y newid a’i rannu â’r cyhoedd.

Prosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy: Iachau a Chofio

Lleisiau’r Tirwedd

Beth yw’r cyfleoedd mynediad newydd y bydd y Prosiect yn eu darparu?

Bydd y Prosiect yn darparu tri llwybr newydd ynghŷd â thirffurf newydd.

Pam fod y llinyn yma o’r Prosiect yn cael ei alw yn Lleisiau’r Tirwedd?

Fe wnaethom enwi’r Prosiect yn “Iachau a Chofio” fel teyrnged i dirwedd y rhan hon o Ynys Môn a’r bobl sydd wedi byw a gweithio ar y tir, a’i siapio.

O ganlyniad i’r Ail Ryfel Byd, ymyrrwyd ar y tirwedd hon, a bywydau’r bobl oedd yn byw arni’n arw. Roedd yr hyn a ddigwyddodd ar ôl hynny yn arwyddocaol iawn. Yn 1940, creodd Llywodraeth y DU ddwy ganolfan filwrol, sef Llu Awyr Brenhinol (RAF) Bodorgan a Gwersyll Tŷ Croes. O 1949, noddodd Llywodraeth y DU y gwaith o greu Fferm Arbrofol Llanfeirian. Cafodd yr ymyriadau hyn gan Lywodraeth ganolog y DU effaith enfawr a pharhaol.

Mae atgofion o’r cyfnod hwnnw ac o’r newid mawr yn dechrau pylu. Felly, nod y Project, gan weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Hanes Prifysgol Bangor, yw archwilio i mewn i hanes y newid a’i rannu â’r cyhoedd.
Pam fod y Prosiect yn darparu cyfleoedd mynediad newydd?

Yr hedyn: bu’m yn sgwrsio â’r genhedlaeth oedd yn bresennol yn y 1940au, a thrwy hynny codwyd ymwybyddiaeth gynyddol o’r fath effaith gafodd yr Ail Ryfel Byd ar bobl a thirwedd y rhan hon o Ynys Môn.

Rydym eisiau adrodd stori:

  • Bywydau pobl ryfeddol: pobl fel Twm Roberts a gafodd ei ddiswyddo o Erddi Bodorgan ar ôl ymladdfa ddyfeisgar gyda’r Prif Arddwr er mwyn iddo ymuno â’r Awyrlu yn RAF newydd Bodorgan difwr bomiau; a aeth ymlaen i wasanaethu fel difwr bomiau; yna aeth yn löwr yn Ne Cymru; ac yna dychwelyd i Fôn yn ei flynyddoedd olaf i ddechrau garddio eto.
  • Tirwedd a ddifrodwyd gan ryfel: mae un aelod o’r genhedlaeth hŷn yn gallu cofio chwarae mewn pentyrrau o dywod i wneud rhedfeydd RAF Bodorgan. Roedd yn tynnu sylw at ba mor dawel yw’r caeau heddiw.
  • Iwtopia ar Ynys Môn: mae Arbrawf Fferm Llanfeirian yn stori mor anarferol a diddorol ond anhysbys i’r rhan fwyaf, ac yn adleisio fersiwn cyfoes ‘Animal Farm’ George Orwell.
  • Newid tirwedd dros amser: mae archifau Stad Bodorgan yn adnodd unigryw sy’n dogfennu newid amgylcheddol a thirwedd o’r 1720au.
Dywedwch mwy am y llwybrau newydd
Byddwn yn darparu tri llwybr cerdded newydd, pob un ohonyn nhw’n cysylltu â’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus presennol.

Mae’r llwybrau troed newydd hyn yn addas ar gyfer ystod o alluoedd cerdded.

Llwybr troed newydd rhan 1: Llwybr cylchol byr yn Llangadwaladr (‘Cadwaladr’)
Dyma lwybr cylchol hawdd i mewn ac allan o Eglwys Llangadwaladr. Bydd yn mynd tuag at dirffurf newydd y bwriadwn ei greu. Bydd y copa yn rhoi golygfeydd godidog ar draws Ynys Môn, o Lyn Coron i’r môr. Hefyd bydd un o redfeydd glaswellt yr hen RAF Bodorgan yn weladwy. Bwriadwn ddod â bywyd newydd iddo drwy blannu blodau gwyllt ar ei hyd.

Rydym am greu dau lwybr hirach newydd sy’n cysylltu â’r llwybr cylchol byr hwn yn Llangadwaladr, er mwyn ddarparu llwybr addas ar gyfer cerddwyr pellter hir.

Llwybr troed newydd rhan 2: Llwybr pellter hirach i mewn ac allan o Falltraeth (‘Meirian’)
Mae’r rhan hon yn rhedeg o Llangadwaldr i Malltraeth.

Bydd y llwybr yn croesi Afon Frechwen ac yn croesi llethr coediog cyn cyrraedd safle Eglwys Santes Meirian. Bydd y llwybr wedyn yn arwain tuag at yr man gwylio o gyfnod yr Ail Ryfel Byd ym Mhen Boncan – sy’n cynnig golygfeydd dramatig o Eryri, Ynys Llanddwyn a Phen Llŷn – cyn ymuno â Lôn Aberhoccwn sy’n arwain i Malltraeth.

Llwybr troed newydd rhan 3: Llwybr pellter hirach i mewn ac allan o Arffraw (‘Twyni’). Mae’r rhan hon yn rhedeg o Langadwaldr i Aberffraw.

Bydd y llwybr yn croesi Afon Frechwen ac yn parhau at yr hen bont yn Aberffraw trwy system o dwyni tywod dramatig Tywyn Aberffraw.

Pa nodweddion y byddwn yn dod o hyd iddynt ar hyd y ffordd?

Rydym wedi dylunio llwybrau o amgylch nodweddion penodol sy’n ymddangos yn y tirwedd:

  • Seilwaith milwrol o’r Ail Ryfel Byd ar ffurf tŵr gwylio sydd wedi goroesi a rhedfa laswellt wedi’i hatgyfodi;
  • Dwy eglwys hynafol;
  • Mannau gwylio naturiol ar dir uwch gyda golygfeydd aruchel;
  • Mannau croesi afonydd;
  • Coetir cymysg aeddfed/cynhenid, cynefin prin ar Ynys Môn
  • Twyni tywod gorau yng Nghymru, yn ein barn ni.
Beth yw'r meddylfryd sy'n sail i ddyluniad y llwybrau newydd?

Rydym eisiau darparu profiadau cerdded newydd o ansawdd uchel a gobeithiwn y byddan nhw’n cael defnydd da.

Mae ansawdd y profiad yr ydym am ei ddarparu fel a ganlyn:

  • Profiad tirwedd a gweledol: i fod o ansawdd uchel ac amrywiol.
  • Yr arwyneb cerdded: i fod yn sych, yn wastad ac yn hawdd i’w groesi.
  • Cyd-destun ffisegol: bydd y llwybrau’n mynd heibio ac yn datgelu nifer o nodweddion hanesyddol a naturiol.
  • Cyd-destun hanesyddol: rydym am i’r llwybrau adrodd hanes newid tirwedd a’r trigolion oedd yn byw ar y dirwedd hon.
Beth yw'r meddylfryd sy'n sail i ddyluniad y tirffurf newydd?

Mae’r tirffurf newydd wedi’i lunio er mwyn darparu mwynhad a dehongliad o’r tirwedd drwyddi draw. Mae’r tirffurf yn denu’r cerddwr ato ac yn ei alluogi i weld i ble mae’n mynd.

Pwrpas y tirffurf yw:

  • Darparu canolbwynt ar gyfer y rhannau newydd o’r llwybr troed;
  • Codi cerddwyr i uchder uwch er mwyn darparu man gwylio’r golygfeydd godidog sydd gan Ynys Môn i’w cynnig;
  • Cynnig lle o fyfyrio tawel, wedi’i amgylchynu a’i gynorthwyo gan natur.

Nid yw tirffurfiau o waith dyn yn newydd i’r dirwedd hon. Yn ddiweddar darganfuom fod yna dirffurf hynafol ar un adeg yn agos iawn at ein tirffurf arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r crug crwn neolithig bellach wedi diflannu.

Rydym yn dal i feddwl am enw i’r dirffurf newydd. Hoffwn ‘Boncan Bodorgan’ neu ‘Y Bonc’.

Sut mae'r Prosiect wedi mynd ati i ddylunio llwybrau a thirffurfiau?
Rydym wedi gweithio gyda tri dylunwyr tirwedd blaenllaw: Hal Moggridge (yn y cyfnod cyn dechrau’r Prosiect); Paul Harrison a Geoff Wood.

Rydym wedi mireinio’r cynigion dros amser gan ddefnyddio gwybodaeth, cof a phrofiad lleol, deunydd archifol, darganfod gwrthrychau hanesyddol sydd wedi’u cuddio yn y tirwedd a chadw meddwl agored.

Sut mae'r Prosiect wedi cyflawni ymchwil hanesyddol?
Rydym wedi cyd-weithio gyda Ysgol Hanes a Sefydliad Astudio Ystadau Cymru (http://iswe.bangor.ac.uk) Prifysgol Bangor. Cawsom ddau Ymchwilydd o’r Brifysgol i weithio gyda ni er mwyn:

1) cyfweld â thrigolion lleol sy’n cofio’r 1940au a’r ‘50au er mwyn inni allu archwilio hanes llafar lleol a nodi’r atgof hwnnw:

2) ymchwilio i archif Stad Bodorgan er mwyn adrodd hanes Fferm Arbrofol Llanfeirian.

Y manteision a ddaw yn sgîl y Prosiect i bobl leol
  • Cyfleoedd mynediad newydd ac o ansawdd uchel
  • Cyfleoedd i bobl leol gerdded cylchdaith o’u drws ffrynt
  • Cyfleoedd ar gyfer buddion iechyd sy’n gysylltiedig â ffyrdd egnïol o fyw
  • Cyfleoedd i ysgolion gael mynediad i’r dirwedd hanesyddol i ddod â’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn fyw
  • Ffordd newydd o weld tirwedd gyfarwydd
  • Rhannu hanes a chof lleol
Y manteision a ddaw yn sgîl y Prosiect i gerddwyr
  • Mynediad newydd i ardaloedd o werth tirwedd uchel
  • Cysylltedd â hawliau tramwy cyhoeddus presennol gan roi amrywiaeth ehangach o ddewisiadau cerdded i’r cerddwr
  • Tirffurf newydd a fydd yn ganolbwynt ar gyfer teithiau cerdded gyda golygfeydd gwych dros dde-orllewin Ynys Môn
  • Dehongliad arloesol o amgylch y teithiau cerdded a fydd yn rhoi cipolwg ar hanes y dirwedd a phobl y rhan hon o Ynys Môn
A fydd y llwybr troed yn hygyrch?
Bydd. Mae ein llwybr troed wedi’i gynllunio’n ofalus gyda cherddwyr o bob oed a gallu mewn golwg.

Byddwn yn cynnig llwybr cylchol, hamddenol, cyfeillgar i deuluoedd, a fydd yn rhydd o unrhyw rwystr yn ogystal â theithiau cerdded mwy anturus dros wahanol diroedd.

A fyddwn yn codi tâl ar gyfer cael mynediad I’r llwybrau a’r tirffurf?
Na fydd. Rydym am i bawb fwynhau yn rhad ac am ddim.
A fydd maes parcio ar gael?
Bydd cerddwyr yn gallu defnyddio’r maes parcio oddi ar y ffordd presennol sy’n gwasanaethu Eglwys Llangadwaladr. Byddwn hefyd yn annog cerddwyr i ymweld â’r eglwys dlws hon.
Oes croeso i gŵn?
Oes. Mae croeso i gŵn cyn belled â’u bod yn dod â pherchnogion ystyriol gyda nhw. Mae hwn yn dirwedd amaethyddol a bydd anifeiliaid fferm mewn rhai caeau.
A fydd angen map?
Bydd arwyneb y llwybr cylchol yn Llangadwaladr yn hawdd i’w ddilyn gydag arwyddbyst.

Bydd gan y dau lwybr hirach arwyddbyst a ni fydd angen map i’w dilyn.

Byddwn yn plannu gwrychoedd a ffensys mewn rhai mannau i arwain cerddwyr. Felly bydd dilyn ein llwybrau yn hawdd.

Sut fath o esgidiau / cyfarpar sydd angen i mi ddod gyda mi?
Mae hyn yn dibynnu ar ba un o’r llwybrau rydych chi’n dewis eu cerdded.

Ar gyfer y daith gylchol hawdd yn Llangadwaladr, bydd esgidiau ymarfer ac esgidiau pob dydd yn addas.

Os ydych yn bwriadu cerdded ar hyd y llwybrau pellter hirach, byddem yn argymell esgidiau cerdded neu esgidiau glaw os yn dywydd gwlyb.

Wrth gwrs, bydd angen cyflenwadau arferol arnoch chi: dŵr, cot, hufen haul, camera a byrbryd i’w fwynhau ar ben y tirffurf.

Sut fath o ddeunyddiau addysgiadol fydd ar gael?
Rydym am ddefnyddio gwefan i ddarparu gwybodaeth a hanes ac unrhyw wybodaeth arall i hyrwyddo llwybrau newydd.

Rydym yn bwriadu darparu mwy o wybodaeth ar hyd y llwybrau.

Pa bryd fydd y llwybrau yn barod i’w troedio?
Rydym yn bwriadu cwblhau cam cychwynnol y gwaith fel bod y rhannau newydd o’r llwybr troed yn barod i’r cyhoedd eu mwynhau erbyn Mehefin 2023.

Mae angen caniatâd cynllunio ar y tirffurf newydd a bydd yn dilyn unwaith y bydd caniatâd wedi’i roi.

A fydd angen cynnal a chadw parhaus ar y llwybrau?
Bydd, mi fydd angen cynnal a chadw’r llwybrau a’r tirffurf newydd er mwyn neu cadw mewn cyflwr da.

Stad Bodorgan fydd yn goruchwylio’r gwaith cynnal a chadw hwn.

A fydd gwelliannau pellach yn y dyfodol?
Gobeithwn gyflawni gwelliannau pellach. Gallai’r rhain gynnwys seddau a/neu osodiadau o waith celf gan blant ysgol lleol neu gan artistiaid a cherflunwyr proffesiynol.
Sut allwn gysylltu gyda chi?
Unwaith y bydd y llwybrau a’r tirffurf newydd yn weithredol, gwerthfawrogwn glywed gan y defnyddwyr. Byddwn yn rhoi manylion am sut i wneud hynny ar ein gwefan.

Sustainable Management Scheme
Project Partners

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

https://agriculture.ec.europa.eu/common-agricultural-policy/rural-development_en

Contact Details

Local Partnerships:

© 2024 Bodorgan Estate - All Rights Reserved