IACHAU A CHOFIO

Cynllun Rheoli Cynaliadwy

Ein Prosiect SMS “Iachau a Chofio” er cof am dirwedd Ynys Môn, sydd wedi ei llunio gan ymyrraeth dynol a’r amser. Mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, bydd yn archwilio hanes diwylliannol a defnydd tir hanesyddol y rhan hon o’r De-orllewin o Ynys Môn.

Trwy gyfuniad o waith amgylcheddol ac yn canolbwyntio ar bobl, byddwn yn helpu’r gofodau naturiol hyn i wella o effeithiau negyddol gweithgarwch dynol, yn ogystal â dweud hanes y dirwedd sy’n newid yn barhaus.

CYFLWYNIAD I’R PROSIECT

Prosiect CRhC: Iachau a Chofio

Beth ydi Cynllun Rheoli Cynaliadwy?

Mae “Cynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC)” yn gynllun a arianir gan yr Undeb Ewropeaidd sy’n rhan o Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’r heriau unigryw sy’n wynebu cymunedau gwledig. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Rheoli Cynaliadwy ar gael yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-rheoli-cynaliadwy.

Dywedwch wrthon ni am y prosiect:

Nod prosiect Iachau a Chofio ydi adfywio tirweddau, ecosystemau, hanes a chyfleoedd mynediad de-orllewin Ynys Môn. Mae’r Prosiect yn ymateb yn uniongyrchol i’r cyfle a gynigir gan y CRhC ac yn ymestyn dros ystod eang o dirweddau ac ecosystemau.

Mae gan y Prosiect ddau brif linyn ac allbwn:

1) Cyflawni gwaith amgylcheddol i wella cynefinoedd ecolegol ac ansawdd dŵr; a

2) Creu cyfleoedd mynediad newydd ar ffurf tri rhan newydd o lwybrau troed a thirffurf newydd.

Esbonir y ddau linyn hyn yn fanylach isod. …

Pam galw’r prosiect yn Iachau a Chofio?
Fe wnaethom enwi’r Prosiect yn Iachau a Chofio fel teyrnged i dirwedd y rhan hon o Ynys Môn a’r bobl sydd wedi byw a gweithio ynddo a’i siapio.

O Ganlyniad i’r Ail Ryfel Byd, ymyrrwyd ar y tirwedd hon a bywydau’r bobl oedd yn byw arno’n arw. Roedd yr hyn a ddigwyddodd ar ôl hynny yn awryddocaol iawn. Ym 1940, creodd Llywodraeth y DU ddwy ganolfan filwrol, sef Llu Awyr Brenhinol (RAF) Bodorgan a Gwersyll Tŷ Croes. O 1949 noddodd Llywodraeth y DU y gwaith o greu Fferm Arbrofol Llanfeirian. Cafodd yr ymyriadau hyn gan Lywodraeth ganolog y DU effaith enfawr a pharhaol.

Mae atgofion o’r cyfnod hwnnw ac o’r newid mawr yn dechrau pylu. Felly, nod y Prosiect, gan weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Hanes Prifysgol Bangor, yw archwilio i mewn i hanes y newid a’i rannu.

Beth yw cynnwys y Prosiect?
Mae ardal y Prosiect wedi’i lleoli yn ne-orllewin Ynys Môn ac yn ymestyn o Aber Malltraeth i Landrygarn. Mae rhan helaeth o’r ardal hon yn ran o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn ac yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd: arfordirol, gwlyptir, afonol, twyni tywod, coetir a thir fferm.
Pwy sy’n arwain y Prosiect?
Arweinir gan Reolaeth Amgylcheddol Bodorgan Cyfyngedig, sy’n gwmni ‘nid-er-elw’, a’i ddiben yw rheoli a gwella tirwedd a natur yn y rhan hon o Ynys Môn. Mae cysylltiad agos rhwng Rheolaeth Amgylcheddol Bodorgan a Stad Bodorgan.
Beth ydi Stad Bodorgan?
Mae Bodorgan wedi bod yn gartref i’r teulu Meyrick ers y 1370au.

Heddiw Stad Bodorgan yw perchennog tir hynaf Ynys Môn. Mae’r hirhoedledd hwn wedi rhoi’r cyfle i siapio, gwarchod a gwella llawer o’r ardaloedd arbennig sy’n bodoli heddiw yn Ne-orllewin Ynys Môn.

Mae Bodorgan yn angerddol am gadwraeth natur ac mae’r Stad wedi bod yn weithgar wrth sicrhau budd bioamrywiaeth, drwy blannu coed, lledu gwrychoedd, curadu pori cadwraethol, llochesu gwarchodfa wiwer goch a chefnogi gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ei hanfod, mae Bodorgan yn stad ffermio fel ag y bu erioed, Mae wedi sicrhau bod tir ar gael i deuluoedd ffermio’n lleol ers cenedlaethau. Mae Bodorgan yn cyflogi nifer sylweddol o bobl leol ac mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith waith llawer o dimau’r Stad.

Pwy ydi Rheolwr y Prosiect?
Rheolwr y Prosiect yw Dave Bateson, gweithiwr amgylcheddol profiadol sy’n byw ar Ynys Môn a sydd wedi treulio blynyddoedd lawer yn gweithio i RSPB Cymru ar Ynys Môn.
I bwy mae'r Prosiect yn atebol?
Mae’r Prosiect yn atebol yn y pen draw i Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, mae’r Prosiect yn cael ei gynorthwyo gan Fwrdd Prosiect. Mae’i aelodaeth yn cynnwys pobl o Ynys Môn a Gogledd Cymru sydd ag arbenigedd mewn ecoleg, ffermio, hanes Cymru a gwaith llywodraeth leol.

Gyda phwy mae'r Prosiect yn gweithio?

Rydym yn ddigon ffodus o gael gweithio gyda nifer o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol medrus a phrofiadol iawn gan gynnwys:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru
  • Ysgol Hanes Prifysgol Bangor a Sefydliad Astudio Ystadau Cymru
  • Adrienne Stratford, arbenigwr blaenllaw Cymru ar y frân goesgoch
  • Paul Harrison o Harrison Design Development, dylunydd tirwedd arobryn o Ogledd Cymru
  • Geoff Wood, ymgynghorydd celf gyhoeddus profiadol. Mae ei deulu wedi byw ers cenedlaethau yn ardal Aberffraw.
Manteision y Prosiect: gwaith amgylcheddol

Rydym yn darparu portffolio o brosiectau unigol sydd â’r nod o fod o fudd i fioamrywiaeth a gwella iechyd afonydd. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:

  • Ail-wlychu mawndiroedd hanesyddol: mae mawndiroedd iseldirol yn y rhan hon o Ynys Môn heddiw yn llawer llai. Mae mawndir yn bwysig oherwydd yr amrywiaeth o blanhigion a thrychfilod gwlyptir y mae’n eu cynnal a’i rôl bwysig wrth storio carbon.
  • Ailgyflwyno pori i diroedd pori arfordirol: ffocws yma yw gwella cynefin ar gyfer brain coesgoch sy’n chwilota am fwyd.
  • Creu coridorau glân gyda nentydd wedi’u ffensio: y diben yma yw gwella ansawdd dŵr a chynefin ar gyfer pysgod sy’n silio a lleihau mewnbwn maetholion a gwaddod.
  • Creu pyllau newydd mewn porfa wlyb.
Manteision y Prosiect: cyfleoedd mynediad newydd
Rydym yn bwriadu darparu tri llwybr newydd o ansawdd uchel a thirffurf newydd. Enw’r rhan yma o’r Prosiect yw ‘Lleisiau’r Tirwedd’.

Byddwn yn defnyddio deunydd dehongli arloesol i helpu i adrodd stori newid tirwedd a hanes y bobl sydd wedi byw ar y dirwedd hon, wedi gweithio ynddi ac wedi’i siapio.

Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar wahân ar Lleisiau’r Tirwedd am ragor o fanylion.

Faint fydd cost y Prosiect ac o ble daw'r cyllid?
Ariennir y Prosiect gan Gronfa Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd y Prosiect hyd at £595,000 o arian grant.

Bydd Stad Bodorgan yn cyfrannu symiau pellach o’i hadnoddau ei hun i gefnogi cyflawni’r Prosiect.

Beth yw amserlen y Prosiect?
Dechreuodd y Prosiect ym mis Ebrill 2021 a daw i ben ddiwedd Mehefin 2023.

Sustainable Management Scheme
Project Partners

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

https://agriculture.ec.europa.eu/common-agricultural-policy/rural-development_en

Contact Details

Local Partnerships:

© 2024 Bodorgan Estate - All Rights Reserved